Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)
- Cygnet Afon Las, Carrog
- £50,632 – £57,940 per year
- Allied Health and Psychology
- Full time
- Closes 5 Dec 2026
- Cygnet Afon Las, Carrog
- £50,632 – £57,940 per year
- Closes 5 Dec 2026
- Full time
- Speech and Language Therapist
- Allied Health and Psychology
Helping others improve and turn their lives around – there’s no better feeling. It’s what we do for thousands of people at more than 150 sites across the UK. Be a part of it.
Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol Iawn (cyfwerth â Band 7)
Hyd at 50,632 - £ 57,940 yn ddibynnol ar brofiad
Contract parhaol, llawn amser
Lleoliad: Cygnet Afon Las
Yn sgil agor gwasanaeth newydd, mae cyfle cyffrous ar gael i Therapydd Iaith a Lleferydd Arbenigol ymuno â’n tîm!
Mae Cygnet Afon Las yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn agor ym mis Ebrill 2027. Mae’r ysbyty 15 gwely hwn wedi’i leoli yng Nghorwen, Sir Ddinbych, a bydd yn darparu gwasanaeth niwrowybyddol a gofal a chymorth arbenigol i ddynion â chyflyrau niwrolegol cymhleth ochr yn ochr â chanlyniadau seiciatrig. Bydd y gwasanaeth yn derbyn atgyfeiriadau gan y gymuned yn ogystal â gwasanaethau niwrolawfeddygol a niwroadsefydlol, gan gynnig llwybr ar gyfer asesu, rhoi triniaeth ac adfer yn unol â Model Gofal Cygnet. Efallai y bydd unigolion yn cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl ac efallai y bydd gan rai ohonynt hanes fforensig.
Y Swydd
Fel Therapydd Iaith a Lleferydd yn y gwasanaeth hwn, byddwch yn gweithio’n uniongyrchol â llwyth achosion arbenigol o gleifion ag anghenion cymhleth, gan asesu eu hanghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu (SCLN), yn ogystal â’u hanghenion bwyta, yfed a llyncu (EDS). Byddwch yn gweithio ac yn rhoi mewnbwn yn unol â Llwybr SLT Cygnet ar gyfer gwasanaethau niwroseiciatreg. Fel rhan o dîm amlddisgyblaethol ar y safle, byddwch hefyd yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws y gwasanaeth i gefnogi’r gwaith o roi dulliau rheoli ar waith a gwella sgiliau’r gweithlu yn ôl yr angen.
Byddwch yn rhan o wasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd ehangach sy’n gweithredu ar draws y cwmni, ac felly byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at brosiectau ar raddfa fawr. Byddwch yn cael goruchwyliaeth o ansawdd uchel a bydd digonedd o gyfleoedd DPP i’ch cefnogi.
Rydym yn chwilio am Therapydd Iaith a Lleferydd sydd yn meddu ar y canlynol:
- Gradd/diploma ôl-radd (neu gymhwyster cyfatebol) mewn Therapi Iaith a Lleferydd, wedi cofrestru â’r HCPC (Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal) ac yn aelod o’r RCSLT (Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd)
- Cymhwysedd i asesu a rheoli anghenion EDS yn annibynnol (gellir rhoi hyfforddiant a chyfle i ddatblygu yn y maes hwn os oes angen)
- Profiad ym maes niwroleg a / neu gyflyrau niwroddirywiol a gwybodaeth dda am Therapi Iaith a Lleferydd clinigol i ddangos hynny. Bydd unigolion â sgiliau trosglwyddadwy hefyd yn cael eu hystyried.
- Dealltwriaeth o Gefnogi Ymddygiad Cadarnhaol gyda phwyslais ar gynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Tystiolaeth o fod yn aelod da o dîm gydag awydd gwirioneddol i helpu eraill
- Sgiliau cyfathrebu / rheoli amser rhagorol
Yn gyfnewid am hyn, gallwn gynnig:
- Goruchwyliaeth Glinigol Ragorol, cyfleoedd DPP a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ar gyfer dyletswyddau clinigol ac anghlinigol.
- Cyfarfodydd gwasanaeth rheolaidd a chyfarfodydd cymorth gan gymheiriaid gyda Therapyddion Iaith a Lleferydd.
- Cyfle i roi eich stamp ar y pecyn cymorth
- Hyfforddiant cynefino llawn
- Aelodaeth am ddim o CEN
- Cyfle i chwarae rhan weithredol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau, mentrau Gwella Ansawdd a chyfleoedd ymchwil
- Cynllun arian wedi’i ariannu gan y cwmni sy’n eich galluogi i hawlio gwerth hyd at £1000 y flwyddyn o fuddion, gan gynnwys Ffisiotherapi, Osteopathi, Optometreg, Deintyddiaeth, ymgynghoriadau arbenigol, sganiau a phresgripsiynau am ddim.
- Pecyn Cymorth Iechyd Clyfar, gan gynnwys gwasanaethau meddyg teulu 24 awr
- Gostyngiad yng nghost aelodaeth campfa yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd am ddim gyda ClassPass, Rhaglenni Maeth ac Ymgynghoriadau Ffitrwydd
- Gwobrau i weithwyr, cynllun buddiannau sy’n cynnwys gostyngiadau fel Perkbox Cygnet, Cerdyn Golau Glas, gostyngiadau’r GIG a llawer mwy
- Cynllun pensiwn cyfrannol y cwmni
- Cynllun Yswiriant Bywyd a delir gan y cwmni
- Cynllun Ceir Trydan
- Prydau bwyd am ddim a lle i barcio car am ddim yn ystod y shifft
Bydd gofyn i’r ymgeisydd llwyddiannus gael archwiliad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a darparu geirda, a bydd unrhyw gynnig yn amodol ar basio’r rhain yn llwyddiannus.
I gael trafodaeth anffurfiol am y swydd neu i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominique St Clair Miller, Cyfarwyddwr Therapi Iaith a Lleferydd (Gofal Iechyd) ar 07885 476 384.
Ydych chi’n barod am gyfle newydd gwerth chweil? Gwnewch gais nawr.
Dyddiad cau: 1 mis
Dyddiad y cyfweliad: I'w gadarnhau
Cofiwch y gall y cyfnod ymgeisio ddod i ben cyn y dyddiad hwn os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law.
What next?
If you care about making a difference – we want to talk to you.
Click the button to apply
Founded in 1988, Cygnet is a leading UK provider of specialist mental health services, learning disability services, autism support and social care.
With services across the UK, Cygnet supports thousands of people every day through a wide range of inpatient and community-based services designed to help people achieve better outcomes and live healthier, more independent lives.
Our teams work across hospitals, residential services and supported living environments, supporting young people and adults with complex mental health needs, learning disabilities, autism, acquired brain injuries and eating disorders. Every service is centred around providing safe, compassionate and person-focused care.
At Cygnet, we believe that everybody deserves the opportunity to live a life that feels meaningful, fulfilling and hopeful. That means creating environments where people feel supported, respected and empowered to make progress at their own pace.
Support looks different for every individual. For some people, it may involve helping them regain confidence and independence following a period of mental ill health. For others, it may mean providing specialist support around communication, daily living skills or emotional wellbeing. Whatever the journey looks like, our focus is always on helping people move towards a more positive future.
Our colleagues are at the heart of everything we do. Every day, they help people achieve milestones that can have a lasting impact — whether that’s building trust, developing new skills, reconnecting with loved ones or taking steps towards greater independence.
Because of this, working at Cygnet is about far more than delivering care. It’s about building genuine relationships, creating opportunities for recovery and helping people realise their potential.
Many of our roles don’t need previous experience in healthcare or social care. What matters most is sharing our values (Care, Respect, Empower, Trust and Integrity) and a genuine desire to support others. In return, Cygnet provides comprehensive training, ongoing development and clear opportunities to build a rewarding long-term career.
For many colleagues, the most rewarding part of the role is knowing they’ve made a meaningful difference to somebody’s life.
At Cygnet, those moments matter every single day.